Gwirfoddoli

Gwirfoddoli

Helpwch i lunio dyfodol Parc Cyfarthfa.

IMG_1964.jpg

Rhaglen wirfoddolwyr a arweinir gan Sefydliad Cyfarthfa yw Hyrwyddwyr Cyfarthfa, gan ddod â phobl leol at ei gilydd i gefnogi digwyddiadau, gweithgareddau a datblygiad Parc Cyfarthfa yn y dyfodol.

Pa un a ydych yn dymuno cyfarfod pobl newydd, ennill profiad, cynorthwyo eich cymuned neu roi rhywbeth yn ôl i le sy’n bwysig i chi, mae lle i chi yn rhaglen Hyrwyddwyr Cyfarthfa.

Rydym yn recriwtio gwirfoddolwyr ar hyn o bryd i gefnogi digwyddiadau a gweithgareddau ar draws y parc, gan helpu i greu profiadau cofiadwy i filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Wrth i’r rhaglen dyfu, bydd cyfleoedd i wirfoddolwyr gefnogi prosiectau amgylcheddol, mentrau treftadaeth a phrosiectau a gweithgareddau eraill hefyd.

Ymunwch â'r tîm

Ymunwch â mudiad sy’n tyfu o bobl sy’n angerddol am Gyfarthfa ac eisiau chwarae rhan yn ei ddyfodol.

  • Enillwch sgiliau a phrofiad
  • Cyfarfyddwch â phobl â’r un meddylfryd
  • Cefnogwch eich cymuned
  • Enillwch Gredydau Amser Tempo

 Cwblhewch y ffurflen isod i gofrestru eich diddordeb a darganfod mwy.

Europe/London

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×