Mae Sefydliad Cyfarthfa wedi sefydlu Fforwm Cymunedol Cyfarthfa. Mae’r fforwm hwn yn dod â rhanddeiliaid cymunedol allweddol ynghyd yn rheolaidd o’r sectorau treftadaeth, elusennol, diwylliannol a sectorau eraill, ochr yn ochr â chynrychiolwyr cymunedol eraill ac aelodau o Fwrdd Sefydliad Cyfarthfa i gydweithio fel hyrwyddwyr o botensial hirdymor Cyfarthfa.
Mae’r fforwm hwn yn creu sianelau ar gyfer adborth, trafodaeth a chyd-greu ar gyfer y weledigaeth hirdymor i Gyfarthfa.
Os ydych yn cynrychioli sefydliad neu grŵp cymunedol ac y byddai gennych ddiddordeb mewn ymuno â Fforwm Cymunedol Cyfarthfa, cysylltwch â [email protected] am drafodaeth bellach.