Haf yng Nghyfarthfa - Diweddariad y Prif Swyddog Gweithredol
Newyddion | Gorffennaf 28 2026
Sinema Awyr Agored Cyfarthfa
Newyddion | Mehefin 8 2026
Dathlwch Wythnos Genedlaethol y Picnic ym Mharc Cyfarthfa
Amdanom ni
Pwy ydym ni
Mae Sefydliad Cyfarthfa yn elusen a sefydlwyd i arwain yn strategol ddatblygiad hirdymor Castell a Pharc Cyfarthfa ym Merthyr Tudful yn atyniad treftadaeth o bwysigrwydd cenedlaethol.
Mae'r Sefydliad yn hyrwyddo ac yn datblygu Cyfarthfa: i ehangu'r hyn a gynigir gan y parc, ac i greu amgueddfa ac oriel fodern sy'n coffáu'r gorffennol, yn ymdrin â'r presennol ac yn edrych tua'r dyfodol.
Rydym yn parhau i hyrwyddo potensial trawsnewidiol y safle wrth drafod gyda gwleidyddion, rhanddeiliaid, cyllidwyr, noddwyr a sefydliadau ac unigolion eraill, gan bwysleisio nid yn unig bwysigrwydd Cyfarthfa i Gymru, ond hefyd ei harwyddocâd byd-eang.
Mae Sefydliad Cyfarthfa hefyd yn cynnal ystod eang o weithgareddau yn y gymuned i annog pobl i ymgysylltu â'r safle ac i ddarparu cyfleoedd iddynt gysylltu â diwylliant a threftadaeth Cyfarthfa.
Ar un adeg, dyma oedd cartref mawreddog teulu Crawshay, meistri haearn Gwaith Cyfarthfa.
Rydym yn eich gwahodd i archwilio Castell Cyfarthfa godidog, crwydro o amgylch y llyn hanesyddol, a mwynhau treftadaeth a harddwch naturiol y lle annwyl hwn.