Yn 2025, fe wnaeth Castell Cyfarthfa dathlu ei ddeucanmlwyddiant. Ochr yn ochr â phartneriaid eraill, fe wnaeth Sefydliad Cyfarthfa a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful drefnu nifer o ddigwyddiadau dathlu i dynnu sylw at eu hanes a’i dreftadaeth, ei bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol fel y ganolfan fwyaf o gynhyrchu dur yn y byd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a hanes aml-ffased y bobl a’r gymuned a wnaeth ei greu.
Cyfarthfa200
Cynhaliodd Castell a Pharc Cyfarthfa gyfres fywiog o ddigwyddiadau cymunedol yn ddiweddar, ag uchafbwynt ymweliad brenhinol gan Eu Mawrhydi y Brenin a’r Frenhines i ddathlu pen-blwydd Ei Fawrhydi yn 77 oed.
Roedd y dathliadau hefyd yn nodi deucanmlwyddiant Castell Cyfarthfa, a wnaeth ysbrydoli gweithdai creadigol ar gyfer 560 o fyfyrwyr ar draws 23 o ysgolion lleol, gan arwain at gyhoeddi tri llyfr, ochr yn ochr â murlun coffa yng nghanol y dref gan yr artist Tee2Sugars.
Roedd cerrig milltir ymgysylltiad cyhoeddus mawr yn cynnwys arddangosfa ar hanes a dyfodol Cyfarthfa a ddenodd bron i 4,000 o ymwelwyr, gŵyl penwythnos pen-blwydd a fynychwyd gan 2,500 o bobl, a darllediad BBC Cymru Wales a gyrhaeddodd dros 1.7 miliwn o wylwyr.