Pwy ydym ni

Pwy ydym ni

Elusen gofrestredig a ‘Cyfrwng at Ddibenion Arbennig’ (SPV) yw Sefydliad Cyfarthfa, a sefydlwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn 2021. Wedi’n cefnogi gan grant cychwynnol o £1.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru, rydym yn ymroddedig i fwrw ymlaen â’r gwaith uwchgynllunio ac eirioli sy’n ofynnol ar gyfer yr ymgymeriad sylweddol hwn.

Cyfarthfa Halloween Spooktackular.jpg

Crëwyd y Sefydliad â’r diben o arwain y gwaith o drawsnewid Castell a Pharc Cyfarthfa - crwsibl o’r Chwyldro Diwydiannol. Ein nod yw trawsnewid y tirnod hanesyddol hwn ym Merthyr Tudful yn ganolfan ddiwylliannol ryngwladol, yn atyniad ymwelwyr o’r radd flaenaf, ac yn ysgogwr grymus ar gyfer adnewyddiad cymdeithasol.

Prif bwyslais ein gwaith yw blaenoriaethu a gwireddu’r weledigaeth hirdymor uchelgeisiol ar gyfer safle Cyfarthfa a gyflwynwyd yn uwchgynllun ardal ‘Cynllun Cyfarthfa’, a gyhoeddwyd yn 2020. Trwy ddatblygu cynlluniau fesul cam, cyflawni astudiaethau manwl pellach a datblygu achosion busnes cadarn, rydym yn gweithio i gysoni’r cynlluniau ar gyfer Cyfarthfa â fframweithiau strategol lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Rydym yn datblygu’r achos dros y cyllid hanfodol sydd ei angen i greu dyfodol newydd cynaliadwy i Gyfarthfa. Rydym hefyd yn cydweithredu’n agos a phartneriaid lleol, rhanbarthol, a chenedlaethol i wella sefyllfa de-ddwyrain Cymru ar y map twristiaeth byd-eang.

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn gweithio’n agos gyda’r gymuned i greu cyfleoedd parhaus i bobl gysylltu â threftadaeth Cyfarthfa ar gyfer hamdden, i rannu eu syniadau, ac i fod â llai uniongyrchol yn y gwaith o lunio dyfodol y safle.

Tra bod y Sefydliad yn canolbwyntio ar gynllunio prosiect hirdymor, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn parhau i reoli gweithrediadau dyddiol Parc a Chastell Cyfarthfa. Cytunwyd mewn egwyddor y bydd yr asedau yng Nghyfarthfa yn cael eu trosglwyddo yn y pen draw i Sefydliad Cyfarthfa i’w rheoli a’u datblygu’n barhaus. Ar hyn o bryd, mae tîm y Sefydliad yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i benderfynu ar amserlen y broses hon.

Darganfyddwch fwy am ein gwaith hyd yn hyn yma

Pam Cyfarthfa? Pam nawr?

Yn ystod y rhan fwyaf o’r 19eg ganrif, Merthyr Tudful oedd canolfan cynhyrchu haearn fwyaf y byd. Mae ei hanes a’i dreftadaeth o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol. Roedd Cyfarthfa yn ganolog iddo.

Mae Castell Cyfarthfa a ffwrneisi 260 mlwydd oed Cyfarthfa bellach angen eu hachub yn daer fel y gallant chwarae rhan allweddol yn y dasg frys o adfywio’r economi leol, rhoi hwb i falchder dinesig a llesiant cymunedol a chynorthwyo adfywiad economaidd hirdymor yr ardal.

Gall datblygiad Cyfarthfa fod yn bosibl dim ond â chefnogaeth ac ymgysylltiad cymuned ddynamig Merthyr. Bydd y prosiect yn cynorthwyo’r datblygiad o sgiliau, yn creu cyflogaeth newydd uniongyrchol, yn meithrin yr economi sylfaenol ac yn cynorthwyo busnesau newydd a phresennol  gychwyn a thyfu. Wrth i’r prosiect dyfu, bydd ymateb y gymuned i’r cyfle unwaith mewn cenhedlaeth hwn yn hollbwysig i wireddu potensial llawn y prosiect.

Ein Gweledigaeth

Trawsnewid Castell a Pharc Cyfarthfa – crwsibl y chwyldro diwydiannol – yn ganolfan ddiwylliannol ac atyniad ymwelwyr o ansawdd rhyngwladol ac yn ysgogwr o adnewyddiad cymdeithasol.

Ein Cenhadaeth

Dathlu hanes a threftadaeth y lle, adfer a gwella ei amgylchedd naturiol, bod yn llwyfan ar gyfer diwylliant a chreadigrwydd, a gwneud hynny ag ystyriaeth i anghenion pob rhan o’r gymuned ac egwyddorion cynaliadwyedd.

Ymddiriedolwyr

Llywodraethir Sefydliad Cyfarthfa gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr sydd ag amrywiaeth eang o arbenigedd lefel uchel ym meysydd pensaernïaeth, dylunio, peirianneg, curadu amgueddfa ac oriel a busnes. 

Geraint Talfan Davies

Geraint Talfan Davies

Cadeirydd

Dr Carol Bell

Dr Carol Bell

Cllr. Brent Carter

Cllr. Brent Carter

Alison Copus

Alison Copus

Julie Finch

Julie Finch

Geoff Hunt

Geoff Hunt

Sir Simon Jenkins

Sir Simon Jenkins

Ewan Jones

Ewan Jones

Dr Marion Loeffler

Dr Marion Loeffler

Cllr. Lisa Mytton

Cllr. Lisa Mytton

Robert Rummey

Robert Rummey

Staff

Wren Bull

Wren Bull

Rheolwr Cyllid

Gemma Durham

Gemma Durham

Cyfarwyddwr Brand ac Ymgysylltu

Anneleise Shepherd

Anneleise Shepherd

Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol

Jess Mahoney

Jess Mahoney

Prif Weithredwr

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×