Mae castell a gwaith haearn Crawshay hefyd yn sefyll fel symbol balch o weithfeydd haearn diflanedig eraill Merthyr Tudful a’u meistri - teulu Guest yn Nowlais, teulu Homfray ym Mhenydarren ac Anthony Bacon yng ngweithfeydd Plymouth. Gyda’i gilydd, ac ynghyd â gweithfeydd haearn eraill pwysig mewn cymoedd cyfagos, fe wnaethant wthio Merthyr Tudful, Cymru a Phrydain ar y llwyfan byd-eang.
Hanes
"Y gorffennol – teclyn y gall presennol adeiladu dyfodol ag ef"
Mae Merthyr Tudful yn dref fach â hanes mawr: hanes a wnaeth helpu i lunio’r byd modern. Mae’n lle o newid technolegol, diwydiannol, gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol arloesol. Mae ei hanes cyfoethog yn haeddu cael ei goffau’n briodol a’i ailadrodd heddiw, gan gynnig gwersi gwerthfawr ar gyfer ein dyfodol ac ysbrydoli ail-luniad modern y gymuned.
Yn ganolog i Ferthyr Tudful y mae creiriau dramatig ffwrneisi a adeiladwyd 250 o flynyddoedd yn ôl, ynghyd â Chastell Cyfarthfa – yr em yng nghoron Merthyr – a adeiladwyd ym 1825 i’r haearnfeistr William Crawshay II, sydd wedi’i leoli mewn parc 160 erw hardd.
Yn eu hanterth, fe wnaeth gwaith haearn Merthyr Tudful (Cyfarthfa, Dowlais, Plymouth a Phenydarren) gynhyrchu mwy o haearn nag unrhyw le arall ar y ddaear. Fe wnaeth y cymunedau o bobl a oedd yn gweithio yma ddarparu canonau ar gyfer llynges Nelson yn ogystal â’r rheilffyrdd newydd ledled Ewrop. Fe wnaeth eu gweithwyr hefyd ddarparu sgiliau a lansiodd weithfeydd haearn eraill yn Rwsia, Ffrainc ac America.
Ein nod yw dathlu’r hanes hwn trwy greu amgueddfa ac oriel modern yng Nghyfarthfa, yn coffau’r gorffennol, yn rhoi sylw i’r presennol ac yn edrych i’r dyfodol – y cwbl wedi’i leoli mewn parcdir helaeth o ansawdd uchel.
Diben y prosiect hwn yw:
- Dathlu hanes, treftadaeth, a chelf Merthyr.
- Trwsio a diogelu’r amgylchedd naturiol lleol.
- Creu lle ar gyfer prosiectau cymunedol a chyfleoedd newydd.
Ein nod yw gwneud Cyfarthfa yn gyrchfan o’r radd flaenaf ar gyfer diwylliant a threftadaeth.
'Gwaith Dur Cyfarthfa fin nos’ gan Thomas Prytherch - rhan o gasgliad Amgueddfa ac Orielau Celf Castell Cyfarthfa.
Cyfarthfa heddiw
Mae Castell Cyfarthfa yn adeilad rhestredig Gradd I. Fe’i hadeiladwyd mewn dwy ran: y castell gwreiddiol ym 1825 a bron i 100 mlynedd yn ddiweddarach, adeiladau ysgol a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer Ysgol Uwchradd Cyfarthfa ar ôl trosglwyddo perchnogaeth o deulu Crawshay i’r Cyngor.
Gadawodd yr ysgol yr adeilad yn 2014 ac mae’r rhan hon wedi bod yn wag ers hynny. Mae dros 80% o’r adeilad yn anhygyrch i’r cyhoedd ar hyn o bryd. Mae’r elfennau wedi gadael eu hôl. Mae angen ymyriadau brys.
Llawr daear y rhan o’r castell a adeiladwyd ym 1825 yw cartref yr amgueddfa ac oriel presennol yn cyfleu hanes diwydiannol Merthyr ac yn dangos casgliad celf trawiadol o fwy na 300 o ddarnau o waith gan amrywiaeth eang o artistiaid.
Darganfyddwch fwy am Amgueddfa ac Oriel Castell Cyfarthfa