Sarah Hopkins

Sarah Hopkins

Sarah Hopkins yw Prifathro Gweithredol Ysgol Babyddol y Gwynfydedig Carlo Acutis yn Merthyr Tydfil - ysgol ar gyfer plant rhwng 3 a 16 sy’n gwasanaethu ardal Blaenau’r Cymoedd. Ffurfiwyd yr ysgol trwy gyfuno pedair ysgol, yn cynnwys Ysgol Uwchradd Babyddol Esgob Hedley. Graddiodd Sarah mewn Astudiaethau Crefyddol o Brifysgol Caerdydd, a bu’n gweithio yn y GIG cyn symud i fod yn athro yng Nghaerdydd a Merthyr. Penodwyd yn Brifathro ar Ysgol Babyddol yr Esgob Hedley ym 2018. Arweiniodd y dasg o gryfhau safonau’r ysgol ac mae wedi cynrychioli y sector addysgol ar nifer o fyrddau yn cynnwys Cymwysterau Cymru yn ogystal a phaneli Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Mae’n byw gyda’i gwr a dau o blant (a’r ci!) yn Aberdar.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×