Amdanom

Amdanom

Trawsnewid Castell a Pharc Cyfarthfa – pair y chwyldro diwydiannol - yn ganolfan ddiwylliannol ac atyniad ymwelwyr o ansawdd rhyngwladol ac yn beiriant adnewyddu cymdeithasol.

Castle in the daytime

Ein Nod

Dathlu hanes a threftadaeth y lle, gwella a chyfoethogi ei amgylchedd naturiol, bod yn llwyfan i ddiwylliant a chreadigrwydd, a gwneud hynny gan ofalu am anghenion pob rhan o’r gymuned ac egwyddorion cynaliadwyedd.

Pam Cyfarthfa? Pam nawr?

Dros y rhan fwyaf o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg Merthyr Tydfil oedd canolfan cynhyrchu haearn mwyaf y byd. Mae ei hanes a’i threftadaeth o bwys cenedlaethol a rhyng-genedlaethol.

Mae angen dybryd i achub Castell Cyfarthfa a ffwrneisi hynafol Cyfarthfa, sy’n dyddio’n ôl 260 o flynyddoedd, er mwyn iddynt fedru chwarae rhan allweddol yn y dasg frys o adfywio’r economi leol a chefnogi adfywiad economaidd hirdymor yr ardal.

Bydd Castell a Pharc Cyfarthfa yn cael eu datblygu nid yn unig er budd pobl Merthyr, ond ar y cyd â phobl Merthyr. er mwyn sicrhau datblygu sgiliau, creu swyddi, meithrin yr economi seiliol, gan annog cwmniau  hen a newydd iymateb yn gadarnhaol i’r cyfleoedd newydd hyn.

Sefydliad Cyfarthfa

Bydd lluosi nifer yr ymwelwyr â Chyfarthfa yn cael effaith gadarnhaol ar ganol y dref gerllaw, yn creu swyddi, yn ategu datblygiadau eraill yng nghanol y dref ac yn atgyfnerthu enw da cynyddol Merthyr Tudful fel prif dref Blaenau’r Cymoedd.

Mae’r Sefydliad yn elusen gofrestredig a grëwyd i wireddu’r cynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol. Mae wedi cael grant gwerth £1.2m gan Lywodraeth Cymru i ddechrau ar y gwaith cynllunio ac i gynhyrchu’r arian sydd ei angen i gefnogi’r gwaith sylweddol. Cytunwyd y byddai’r Sefydliad yn cymryd perchenogaeth o Gyfarthfa yn y pen draw, ond tra bod y Sefydliad yn canolbwyntio ar gynllunio’r prosiect, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn parhau i reoli Castell a Pharc Cyfarthfa.

Ymddiriedolwyr

Sefydliad elusennol ydyw a ffurfiwyd ym mis Tachwedd 2020, dan reolaeth Bwrdd Ymddiriedolwyr sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned ynghyd â’r arbenigwyr gorau sydd ar gael.

Geraint Talfan Davies

Geraint Talfan Davies

Cadeirydd

Dr Carol Bell

Dr Carol Bell

Geoff Hunt

Geoff Hunt

Sir Simon Jenkins

Sir Simon Jenkins

Ewan Jones

Ewan Jones

Hanif Kara

Hanif Kara

Dr Marion Loeffler

Dr Marion Loeffler

Robert Rummey

Robert Rummey

Sara Turnbull

Sara Turnbull

Cllr. Lisa Mytton

Cllr. Lisa Mytton

Alison Copus

Alison Copus

Bryony Bond

Bryony Bond

Julie Finch

Julie Finch

Staff

Wren Bull

Wren Bull

Rheolwr Cyllid

Gemma Durham

Gemma Durham

Cyfarwyddwr Brand ac Ymgysylltu

Anneleise Shepherd

Anneleise Shepherd

Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×