Mae Sefydliad Cyfarthfa yn falch o groesawu tri aelod newydd o’r bwrdd, y mae pob un ohonynt yn dod â chyfoeth o brofiad a fydd yn amhrisiadwy i gefnogi’r cynlluniau ar gyfer Castell a Pharc Cyfarthfa.
Mae Alison Copus wedi cael gyrfa ryngwladol helaeth ym maes marchnata. Erbyn hyn mae’n byw yn Abertawe. Ar ôl treulio rhan gynnar ei gyrfa gydag Ogilvy and Mather ac American Express, daeth yn Gyfarwyddwr Marchnata Virgin Atlantic, swydd y bu’n ei gwneud am 12 mlynedd. Aeth ymlaen i arwain Entrepreneurs Unite Virgin Management, gan sefydlu’r Branson School for Entrepreneurship i ddarparu sgiliau busnes i bobl ifanc ddifreintiedig.
Yn dilyn hynny, treuliodd bum mlynedd fel Is-lywydd Marchnata ar gyfer TripAdvisor, gan ymgymryd â’r dasg o ehangu’r brand y tu allan i’r UD a sicrhau mai’r wefan deithio honno oedd y fwyaf yn y byd. Mae hi wedi bod yn Aelod o Fwrdd y Sefydliad Materion Cymreig ers 2018 ac roedd yn aelod o Dîm Arwain Canolfan Mileniwm Cymru rhwng 2017 a 2021.
Mae gan Bryony Bond brofiad helaeth o amgueddfeydd ac orielau ar ôl gweithio fel Cyfarwyddwr a Churadur am fwy na 20 mlynedd yn Leeds, Manceinion, Lerpwl, Llundain a Chaeredin. Ers 2016, mae hi wedi bod yn Gyfarwyddwr Artistig The Tetley yn Leeds. Cyn hynny, roedd hi’n guradur arddangosfeydd yn The Whitworth ym Manceinion.
Yn The Tetley, mae hi wedi meithrin partneriaethau â sefydliadau sy’n cefnogi menywod a merched difreintiedig, cymunedau amrywiol a theuluoedd â phlant ifanc. Yn 2022, lansiodd The Tiny Tetley Studio, lle chwarae wedi’i gynllunio gan artistiaid ar gyfer plant o dan bump oed, y mae mwy na 5,000 o deuluoedd wedi cofrestru i gael mynediad iddo.
Mae Julie Finch wedi bod yn Brif Weithredwr Gŵyl y Gelli ers 2022, y chweched sefydliad diwylliannol y mae hi wedi’i arwain yn ystod eu gyrfa. Cyn iddi gael ei phenodi i’w swydd gyda Gŵyl y Gelli, roedd hi’n Brif Weithredwr Compton Verney House Trust lle bu’n goruchwylio prosiect tir mawr i ddatblygu 90 erw o dirwedd Capability Brown, gan ddyblu nifer yr ymwelwyr.
Fel Prif Weithredwr cyntaf The Cheltenham Trust, bu’n rhaid iddi ailsefydlu’r elusen, ar ôl i’r asedau diwylliannol helaeth gael eu trosglwyddo o ddwylo’r awdurdod lleol. Cyn hynny, treuliodd Julie ddwy flynedd fel Cyfarwyddwr Prosiect ar gyfer amgueddfa newydd Gorllewin Awstralia, gan ddefnyddio ei phrofiad blaenorol o weithio ar brosiectau cyfalaf mawr tra’r oedd hi’n Gyfarwyddwr Amgueddfeydd, Orielau ac Archifau Bryste. Mae hi hefyd wedi bod yn aelod o Gyngor Cenedlaethol Cyngor Celfyddydau Lloegr ac yn aelod o Fwrdd y De-orllewin Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
Mae’r aelodau newydd yn ymuno ar adeg dyngedfennol oherwydd, yn dilyn cyhoeddi Cynllun Cyfarthfa yn 2021, ffocws allweddol y Sefydliad ar hyn o bryd yw cymryd ysbrydoliaeth o’r cam diffinio strategol hwn a datblygu camau cyflawnadwy ond uchelgeisiol i drawsnewid Cyfarthfa. Bydd sgiliau helaeth Alison, Julie a Bryony ym meysydd marchnata, arweinyddiaeth a datblygu yn ogystal â’u profiad ym meysydd treftadaeth, diwylliant a’r celfyddydau yn bwysig iawn yn ystod cam nesaf y prosiect.