Bydd Castell Cyfarthfa yn dathlu ei ben-blwydd yn 200 oed yn 2025, ac i ddathlu’r achlysur hwn mae Sefydliad Cyfarthfa wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Merthyr’s Roots a’r Tîm Addysg yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa i ddarparu gweithdai addysgol ‘Ddoe a Heddiw’ i ysgolion cynradd.
Mae’r gweithdai, y mae dros 620 o blant o ysgolion cynradd ledled Merthyr Tudful wedi’u mynychu eisoes, yn dangos sut y cafodd Cyfarthfa ei llywio gan bobl Merthyr a chan y byd naturiol, ac yn pwysleisio pwysigrwydd Cyfarthfa i Gymru a thu hwnt.
Mae’r plant yn treulio hanner y diwrnod gyda thîm yr amgueddfa lle maent yn cael cyfle i weld gwrthrychau, lluniau a gwaith celf sy’n adrodd hanes Castell a Pharc Cyfarthfa. Mae pob plentyn yn cael llyfr braslunio ac yn cael ei annog i dynnu lluniau o bethau sy’n ei ysbrydoli neu sydd o ddiddordeb iddo drwy gydol y diwrnod. Mae’r sesiwn ryngweithiol hon yn gyfle i’r bobl ifanc ddysgu am 200 o flynyddoedd o hanes Cyfarthfa.
Mae myfyrwyr hefyd yn treulio amser yn dysgu am arddwriaeth yn y 19eg ganrif gyda Merthyr’s Roots, o amgylch y parc ac yn y tai gwydr. Mae’r bobl ifanc yn dysgu am hanes y parc a’i fotaneg, ac yn cael eu hannog i dynnu lluniau yn eu llyfrau braslunio o bethau fel pîn-afalau (a dyfwyd yma yn y 19eg ganrif), gwneud rhwbiadau cwyr o redyn ac ail-greu’r patrwm ar fisgedi custard creams.
Yn y prynhawn, mae’r plant yn cymryd rhan mewn sesiwn am yr amgylchedd a’r dirwedd, gan greu mapiau 3D o sut y byddai Merthyr wedi edrych yn ystod cyfnodau gwahanol.
Mae’r sesiynau rhyngweithiol wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru ac i wella dysgu’r plant gyda phrofiadau y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
Mae’r sesiynau wedi’u gwerthuso’n annibynnol gan un o Ymgynghorwyr yr Amgueddfa, Robin Johnson, a ddywedodd: “Roedd ymdeimlad clir o gyffro ymhlith y plant yn yr ystafell drwy gydol y sesiwn, ac ymdeimlad gwirioneddol o falchder yn yr ardal. Parhaodd y brwdfrydedd hwn pan ymwelodd y grŵp ag orielau’r amgueddfa lle rhoddodd y darluniau yn y llyfrau braslunio ymdeimlad o ddiben a ffocws i’r rhan honno o’r sesiwn.”
“Roedd y gwaith grŵp a welais yn arbennig, o ran y rhyngweithio rhwng y plant ar y byrddau, ond hefyd elfen adborth y gweithdy lle aeth y plant ati’n hyderus i roi esboniad i weddill y dosbarth o’r gwrthrychau yr oedden nhw wedi bod yn eu harchwilio.”
Mae nifer dda wedi bod yn mynd i’r gweithdai ac mae’r adborth gan fyfyrwyr ac athrawon wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae gweithdai ar gael o hyd cyn diwedd y flwyddyn ysgol ym mis Gorffennaf 2024 i ddosbarthiadau Blwyddyn 4 ysgolion ym Merthyr Tudful. Os nad yw eich dosbarth wedi bod i weithdy eto, cliciwch ymai archebu eich lle.