Cynnig i ddod ag Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Ferthyr Tudful

June 23 2023

Mae Sefydliad Cyfarthfa wedi ymateb i weledigaeth uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer safle angor ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru gyda chysyniad beiddgar ar gyfer Castell a Pharc Cyfarthfa. Mae’r safle ym Merthyr Tudful yn cynnig cyfle ar gyfer canolfan celf gyfoes a gydnabyddir yn rhyngwladol ac ar gyfer y diwydiannau creadigol.

Illustration of Cyfarthfa Castle in the park with additional buildings, people and art installations.jpg

Mae sefydlu Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru yn un o’r ymrwymiadau allweddol yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.  

Ym mis Medi 2022, derbyniodd Llywodraeth Cymru 14 o ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer lleoliadau i ddod yn safle angor ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru. Gwahoddwyd pum ardal awdurdod lleol:  Wrecsam, Abertawe, Casnewydd,  Caerdydd, a Merthyr Tudful i ddatblygu eu cynlluniau ymhellach. 

Am ganrif a hanner, roedd Merthyr Tudful yn bair o bwys byd-eang yn y chwyldro diwydiannol ac mae’r cynnig beiddgar ar gyfer yr Oriel Celf Gyfoes yng Nghyfarthfa yn adeiladu ar yr etifeddiaeth honno. Byddai hyn yn cynnig cyfle i blant, myfyrwyr ac oedolion ymgysylltu ag artistiaid, gwneuthurwyr, curaduron ac entrepreneuriaid. Byddai’r prosiect uchelgeisiol yn ased i bobl leol, ac yn cysylltu’n ehangach i ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal.   

Mae’r Weledigaeth Artistig ar gyfer yr Oriel Celf Gyfoes yng Nghyfarthfa yn dwyn ynghyd y casgliad presennol ym Merthyr a chasgliad cenedlaethol Cymru, ac mae’n dangos sut y gall celf gyfoes wella’r ffordd y caiff hanes a threftadaeth ddiwydiannol Cyfarthfa eu cyflwyno drwy amrywiaeth eang o gyfryngau a dulliau gweithredu.   

Pe bai Cyfarthfa yn llwyddiannus, byddai’r prosiect yn creu buddsoddiad diwylliannol mawr ym Merthyr Tudful ac yn ardal Blaenau’r Cymoedd.    

Gan adeiladu ar y gweithgarwch llwyddiannus sy’n digwydd ar y safle ar hyn o bryd, lle mae’r gymuned yn ymgysylltu â hanes, natur a chelf – byddai Cyfarthfa yn tyfu ei gynulleidfa o deuluoedd, myfyrwyr a thwristiaid yn sylweddol ac yn cynnig mwy o gyfleoedd cyflogaeth a gwirfoddoli i bobl leol.   

Mae arolygon ac ymchwil gyda’r gymuned leol yn dangos bod yna gefnogaeth eang i sefydlu’r safle angor ym Merthyr gydag 89% o ymatebwyr yn gefnogol iawn i gais Cyfarthfa i fod yn gartref i’r Oriel.  

Cyflwynwyd y cynnig ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru i Lywodraeth Cymru ei ystyried yng Ngwanwyn 2023. Disgwylir y bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn haf 2024.  

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×