BBC Cymru yn cyhoeddi casgliad newydd o gynnwys sy’n dathlu Merthyr Tudful

April 9 2025

I gyd fynd â daucanmlwyddiant Castell Cyfarthfa, mae BBC Cymru wedi comisiynu casgliad o raglenni a chynnwys sy’n dathlu hanes, diwylliant a phobl Merthyr.

Ruth Jones and Steve Speirs dressed in black standing in front of a steam train.jpg

Llun: ITV Studios

Dros gyfnod o bythefnos ym mis Mehefin, byddwn ni’n rhoi sylw i hanes Merthyr, ac yn edrych yn fanylach ar sut y datblygodd y dref hon yn un o drefi diwydiannol cyntaf y byd, a’r hyn a adawyd ar ôl y bennod bwysig hon yn hanes Cymru. Bydd y casgliad hefyd yn dathlu’r dref fel y mae heddiw, yn herio’r stereoteipiau ac yn tynnu sylw at y pethau sy’n gwneud Merthyr yn lle mor arbennig i'r rhai sy’n falch i'w alw’n gartref.

Mae pedair rhaglen newydd wedi eu comisiynu ar gyfer BBC One Wales, gan gynnwys un rhaglen arbennig lle bydd yr eicon Ruth Jones a’r actor a’r digrifwr o Ferthyr, Steve Speirs, yn treulio penwythnos unigryw gyda’i gilydd, Ruth and Steve: from Merthyr with Love.

Wrth siarad am ei brofiad yn ffilmio’r rhaglen, dywedodd Steve Speirs: “Dyma un o brofiadau ffilmio hapusaf fy mywyd; mynd â rhywun sy’n arbennig iawn i mi i’r lle sydd fwyaf arbennig i mi. Fe wnaethon ni chwerthin gymaint, bu i ni sgwrsio gymaint… a buon ni’n agos iawn at grio  Roedd ein taith i Ferthyr yn gofiadwy tu hwnt i’r ddau ohonom.

Dywedodd Ruth Jones: “Merthyr Tudful! Pwy ‘sa’n meddwl? Cefais yr amser gorau yn dysgu am y lle gwych yma a chael fy nhywys gan fy ffrind annwyl Steve Speirs. Mi fyddaf bendant yn mynd yn ôl!”

Bydd y rhaglen ddogfen nodedig, Boom Town: How Merthyr Made the World, a gyflwynwyd gan Steffan Powell, yn archwilio sut a pham y daeth Merthyr yn ganolbwynt i’r Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain. Bydd y rhaglen yn defnyddio technoleg a Deallusrwydd Artiffisial i ddod â 200 mlynedd o hanes Merthyr yn fyw.

Bydd y digrifwr, Kiri Pritchard-McLean yn cynnal rhaglen gomedi arbennig. Cafodd Live From Merthyr Tydfil ei ffilmio’n gynharach eleni yn Theatr Soar Merthyr. Yn ystod y ddwy raglen hanner awr, bydd Morgan Rees ac Owen Money, dau o Ferthyr yn ymuno â Kiri ynghyd ag amrywiaeth o dalentau comedi eraill gan gynnwys Paul Hilleard, enillydd cystadleuaeth Gomedi Newydd y BBC, Mel Owen, Priya Hall, Ignacio Lopez, Anna Thomas, ac Esyllt Sears.

A bydd fersiwn arbennig o Rewind: 60 Years of Welsh Pop yn rhoi sylw i Ferthyr ac yn archwilio treftadaeth gerddorol Merthyr a'r Cymoedd.

Ar y radio, mae BBC Radio Wales wedi comisiynu cyfres dwy ran, Merthyr Made Me, lle fydd y cyflwynydd Jonny Owen yn dod â hanes Merthyr yn fyw gyda straeon gan y bobl sy’n byw yn y dref nawr. Bydd Johnny yn siarad â phedwar unigolyn o bob oed, sy’n byw neu’n dod o Ferthyr Tudful, ac yn edrych yn fanylach ar hanes eu teulu.

Bydd When Hoover Sneezed yn cael ei hailddarlledu ar BBC Radio Wales. Cafodd y rhaglen ei darlledu gyntaf y llynedd i nodi 75 mlwyddiant y ffatri Hoover oedd wedi’i hysbrydoli gan Art-Deco.

Mae rhaglen ddogfen newydd wedi ei chomisiynu ar gyfer BBC Radio Cymru, a fydd yn edrych ar hanes un o fandiau pres hynaf y byd, sef Band Cyfarthfa, a sefydlwyd gan Robert Thompson Crawshay yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bydd Band Cyfarthfa yn cael ei chyflwyno gan Geraint Lewis, y sylwebydd cerddoriaeth Cymraeg, a bydd y rhaglen yn ei ddilyn wrth iddo archwilio sut daeth y band yn un o ensembles cerddorol gorau oes Fictoria.

Bydd rhaglen Hawl i Holi BBC Radio Cymru yn cael ei darlledu’n fyw o Ferthyr Tudful, ac Any Questions? yn fyw o Goleg Merthyr ar 13 Mehefin.

Mae Corws Cenedlaethol Cymru'r BBC yn gweithio â phedair ysgol gynradd ym Merthyr Tudful, a byddan nhw’n rhannu’r llwyfan gyda’r côr plant mewn cyngerdd byw ddechrau mis Mehefin.

Bydd Tîm Archif BBC Cymru Wales hefyd yn curadu casgliad o’r archif a fydd yn tynnu sylw at gerddoriaeth, tirwedd a phobl Merthyr Tudful, a bydd BBC Addysg yn cynhyrchu pecynnau digidol  ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd ar gyfranogiad Merthyr yn y chwyldro diwydiannol.

Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “Rwy’ mor falch o’r tymor hwn o raglenni fydd yn tanio’r chwilfrydedd am orffennol a dyfodol Merthyr Tudful, gan ddenu cynulleidfaoedd i’r dref arbennig hon. Mae’r foment fawr yma yn gyfle i ni ddathlu cymeriad, enaid, cymuned a diwylliant Merthyr Tudful, yn ogystal â chyfraniad yr ardal i’r  Gymru fodern a’r byd yn ehangach. Mae hi’n gyffrous iawn i gael lansio ystod o gynnwys o Ferthyr dros yr haf.”

Fel rhan o ddathliadau 2025 sy’n dynodi daucanmlwyddiant Castell Cyfarthfa – a adeiladwyd gan William Crawshay, y meistr haearn - mae BBC Cymru Wales wedi ffurfio partneriaeth â Grŵp Llywio Merthyr 2025, sy’n cynnwys Cyngor Merthyr, Castell Cyfarthfa, Sefydliad Cyfarthfa a Chyngor Celfyddydau Cymru.

 

Subscribe to our newsletter to keep up to date with all things Cyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×