Cymuned
Cymuned yng Nghyfarthfa
Mae haelioni pobl Merthyr Tudful a’u hymdeimlad cryf o gymuned yn rhan allweddol o hanes y sir ac mae’n rhan annatod o’r datblygiadau i Gyfarthfa.
Chwaraeodd cymuned Merthyr Tudful rôl allweddol wrth lywio’r byd modern.
Mae cymuned yn hanfodol i’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Sefydliad Cyfarthfa ac mae’n rhaid i bobl leol, sefydliadau a phartneriaid gael eu cynnwys ar bob cam o’r gwaith o ddatblygu’r cynllun. Bydd y gwaith o ddatblygu Castell a Pharc Cyfarthfa yn annog twf economaidd cynaliadwy ar gyfer yr ardal, ac yn darparu lle meithringar i ddathlu hanes y gymuned a chyrchfan gyffrous i bobl Merthyr a thu hwnt.
Addysg
Ar hyn o bryd, mae Sefydliad Cyfarthfa yn gweithio mewn partneriaeth â Merthyr’s Roots a’r Tîm Addysg yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa i ddarparu gweithdai addysgol i ysgolion cynradd. Mae’r gweithdai hyn yn dangos sut y cafodd Cyfarthfa ei llywio gan bobl Merthyr a chan y byd naturiol ac maent yn pwysleisio pwysigrwydd Cyfarthfa i Gymru a thu hwnt.
Darganfod Cyfarthfa
Mae Castell a Pharc Cyfarthfa yn fwy nag amgueddfa ac oriel gelf yn barod, gyda bron i 500,000 o bobl yn ymweld â’r safle bob blwyddyn, ond ein nod fydd cynyddu’r nifer hwn yn sylweddol iawn dros amser.